Newyddlenni
Academyddion yn cyfrannu at drefnu'r gynhadledd Computer Graphics and Visual Computing (CGVC) 2020
Bu academyddion o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn cyfrannu at drefnu'r gynhadledd Computer Graphics and Visual Computing (CGVC) 2020, a gynhaliwyd ddydd Iau 10 a dydd Gwener 11 Medi 2020 ar Zoom. Rita Borgo ac Alfie Abdul-Rahman (King’s College Llundain) oedd yn cynnal y gynhadledd a hon oedd y 38ain gynhadledd graffeg cyfrifiadurol, delweddu a chyfrifiadureg gweledol flynyddol a drefnwyd gan yr Eurographics UK Chapter.
 Cynhadledd Computer Graphics and Visual Computing (CGVC) 2020Meddai Dr Panagiotis Ritsos, cyd-gadeirydd rhaglen cynhadledd CGVC2020, a darlithydd delweddu yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig “roedd yn fraint cael bod yn un o’r ddau gadeirydd rhaglen ar gyfer cynhadledd CGVC 2020. Ynghyd â  (Prifysgol Middlesex) bûm yn trefnu'r papurau ac yn trefnu'r broses adolygu cymheiriaid a rhaglen y gynhadledd. Roedd yn bleser gweld cyflwyniadau rhyngwladol o’r DU, yr Almaen, Ffrainc, Sbaen, yr Iseldiroedd, UDA, Tsieina a Saudi Arabia.”

Aeth Dr Ritsos ymlaen i ddweud “Cawsom gyflwyniadau am amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys delweddu, graffeg, dysgu peirianyddol a realiti rhithiol ac estynedig, sy'n dangos yr amrywiaeth o ymchwil sy'n digwydd yn y DU ym maes graffeg cyfrifiadurol a chyfrifiadura gweledol.” Roeddwn yn falch o fod yn rhan o'r gynhadledd hon, yn enwedig oherwydd bod y maes yn cyd-fynd â gweithgareddau addysgu ac ymchwil ym Mangor. Mae gennym sawl ymchwilydd yn yr ysgol sy'n gwneud ymchwil o’r radd flaenaf mewn delweddu, modelu data, golwg gyfrifiadurol a graffeg, ac mae gennym hefyd gyrsiau israddedig arbenigol mewn pynciau cysylltiedig fel cyfrifiadureg gyda gemau a BSc Technolegau Creadigol ac MSc Gwyddor Data Uwch.”
Meddai'r Athro Jonathan Roberts, Athro Delweddu yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig a chyn-gadeirydd yr Eurographics UK Chapter, "Bob blwyddyn mae'r gynhadledd yn dod ag academyddion a myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr graffeg gyfrifiadurol a chyfrifiadura gweledol ynghyd. Mae'n braf cael cyfarfod â ffrindiau. Eleni, oherwydd COVID-19, penderfynwyd cynnal y gynhadledd ar-lein. Roedd yn wych gweld bod tua 40 yn bresennol yn ystod y cyflwyniadau, a bod 79 o ddefnyddwyr wedi rhyngweithio trwy sianel Slack y gynhadledd, a chefais gyfle i gwrdd â ffrindiau nad oeddwn wedi eu gweld ers blwyddyn gyfan. Mwynheais yn arbennig y brif sgwrs gan yr Athro Nick Holliman (Prifysgol Newcastle) gyda'r teitl ‘Visual Entropy as a tool for Better Visualization’. Siaradodd am ei waith ymchwil ar uwchgyfrifiadura cwmwl Petascale ar gyfer delweddu terapixel, i greu gefell ddigidol o Newcastle-upon-Tyne.”
 Yr Athro Nick Holliman (Prifysgol Newcastle) yn traddodi ei brif anerchiad yng nghynhadledd CGVC 2020Meddai Dr Franck Vidal, Ysgrifennydd yr Eurographics UK Chapter ac Uwch Ddarlithydd Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ym Mangor, “Mae'r Eurographics UK Chapter yn gr诺p o ymchwilwyr yn y DU sydd â diddordeb mewn graffeg, delweddu a chyfrifiadura gweledol. Fel sefydliad, rydym wedi bod yn ymdrechu i annog myfyrwyr PhD i ysgrifennu a chyhoeddi papurau, a chyflwyno eu gwaith mewn cynhadledd flynyddol, mewn awyrgylch cyfeillgar. Rwy'n annog myfyrwyr israddedig rhagorol i drosi eu traethodau hir yn erthyglau ymchwil. Eleni cyhoeddodd dau o raddedigion 亚洲色吧 ( a Gary Fergusson) y gwaith a wnaethant ar gyfer eu project blwyddyn olaf.”

Aeth Franck ymlaen i ddweud “Rydym yn gangen weithgar o’r Gymdeithas Eurograffeg, sy’n gr诺p rhyngwladol o ymchwilwyr. Mae'n golygu y gallwn gynnal cynhadledd yn y DU a chyhoeddi papurau ar lyfrgell ddigidol o ansawdd uchel. Rwyf eisiau annog myfyrwyr PhD, yn enwedig ledled y DU, yn y maes pwnc hwn i gyflwyno eu gwaith y flwyddyn nesaf. Rydym yn gr诺p cyfeillgar o ymchwilwyr graffeg a chyfrifiadura gweledol, ac rydym yn credu bod cyfrifiadura gweledol yn faes pwysig i'r gymdeithas sydd ohoni ac yn faes sy'n tyfu. Cadwch lygad ar wefan cynhadledd CGVG a gwefan yr Eurographics UK Chapter i gael manylion cynhadledd y flwyddyn nesaf”.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2020